Amodau a Rheolau
Cyffredinol
- Oed cystadlu:
- Rhaid i’r cystadleuwyr fod yn y flwyddyn ysgol a nodir ar ddiwrnod yr eisteddfod (7 Chwefror 2025).
- Rhaid i’r cystadleuwyr fod o fewn yr oedran cystadlu ar ddiwrnod yr eisteddfod (7 Chwefror 2025).
- Does dom cyfyngiad oedran ar y cystadlaethau agored.
- Cymraeg fydd iaith yr eisteddfod.
- Bydd bar yn gwerthu alcohol yn ystod yr eisteddfod. Ni fyddwn yn gwerthu alcohol i unrhyw un o dan 18. Byddwn yn herio a gofyn i weld prawf o oedran unrhyw un y tybiwn y gallai fod yn iau na 25 oed.
- Ni thelir costau teithio cystadleuwyr.
- Bydd ffotograffwyr yn yr eisteddfod ac yn tynnu lluniau a fideos. Os nad ydych am i ni dynnu eich llun neu lun eich plentyn, rhowch wybod i aelod o’r pwyllgor.
Cystadlaethau Gwaith Cartref Eisteddfod Caerdydd 2025
- Rhaid i geisiadau cystadlaethau gwaith cartref gyrraedd erbyn dydd Sul 5 Ionawr 2025.
- Byddai’n well gennym dderbyn ceisiadau yn electronig. Ewch i'r Porthol Cystadlu neu dros e-bost at cystadlu@eisteddfodcaerdydd.cymru. Ond gallwch hefyd eu hanfon drwy’r post at:
Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd d/o Shân Crofft, 17 Rennie Street, Riverside, Caerdydd, CF11 6EG. - Mae croeso i chi gystadlu hyd at ddwy waith ym mhob cystadleuaeth. Mae'n rhaid cyflwyno pob ymgais ar wahân o dan ffugenw gwahanol bob tro.
- Ar gyfer cystadlaethau ysgrifenedig (gan gynnwys cyfansoddi):
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar frig eich ymgais, p’un a eich bod yn anfon y wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post:
- eich ffugenw
- rhif y gystadleuaeth a theitl y gystadleuaeth
- nifer y geiriau neu’r llinellau os yw’n berthnasol
- yn y prif e-bost, neu ar ddarn papur ar wahân os ydych yn anfon eich ymgais drwy’r post, dylech gynnwys:
- eich enw
- manylion pa gystadlaethau yr ydych wedi ymgeisio ynddynt, gan gynnwys y ffugenwau yr ydych wedi eu defnyddio ar gyfer pob ymgais
- manylion cyswllt yr ymgeisydd:
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- cyfeiriad cartref (ar gyfer unrhyw wobr)
- yn achos cystadlaethau i blant oed uwchradd, cynradd a thlws yr ifanc, dylid cynnwys oed yr ymgeisydd a'r ysgol y mae'n mynychu
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar frig eich ymgais, p’un a eich bod yn anfon y wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post:
- Ar gyfer cystadlaethau ffotograffiaeth:
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar gefn eich ymgais os ydych yn danfon ymgais drwy’r post, neu ar yr e-bost os ydych yn ei anfon yn electronig:
- eich ffugenw
- rhif y gystadleuaeth a theitl y gystadleuaeth
- yn y prif e-bost, neu ar ddarn papur ar wahân os ydych yn anfon eich ymgais drwy’r post, dylech gynnwys:
- eich enw
- manylion pa gystadlaethau yr ydych wedi ymgeisio ynddynt, gan gynnwys y ffugenwau yr ydych wedi eu defnyddio ar gyfer pob ymgais
- manylion cyswllt yr ymgeisydd:
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- cyfeiriad cartref (ar gyfer unrhyw wobr)
- yn achos cystadlaethau i blant oed uwchradd a chynradd dylid cynnwys oed yr ymgeisydd a'r ysgol y mae'n mynychu
- nodwch mai dim ond un ffotograff y dylid ei gyflwyno ar gyfer pob ymgais, ond mae croeso i chi ymgeisio fwy nag unwaith
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar gefn eich ymgais os ydych yn danfon ymgais drwy’r post, neu ar yr e-bost os ydych yn ei anfon yn electronig:
- Yn dilyn yr eisteddfod byddwn yn cyhoeddi y darnau buddugol yn y Dinesydd. Os nad ydych am i’ch cais gael ei gynnwys, os ydych yn fuddugol, rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno’r cais.
- Ni fydd manylion yr ymgeisydd yn cael eu rhannu gyda’r beirniad.
- Mae croeso i athrawon anfon ceisiadau disgyblion i gyd gyda’i gilydd. Os byddwch yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â ni ymlaen llaw. Bydd angen sicrhau bod y manylion cywir a pherthnasol gyda phob ymgais.
- Ni chaniateir cyflwyno’r un darn mewn mwy nag un gystadleuaeth.
- Gellir gwneud cais i gael beirniadaeth drwy e-bostio cystadlu@eisteddfodcaerdydd.cymru ar ôl 17 Chwefror 2025.
Llwyfan
- Disgwylir i chi gofrestru i gystadlu ymlaen llaw drwy lenwi ffurflen ar-lein. Rhaid cofrestru erbyn 1 Chwefror 2025.
- Os ydych wedi cofrestru ac yn methu cystadlu bellach, dylech gysylltu â’r eisteddfod drwy e-bostio cystadlu@eisteddfodcaerdydd.cymru cyn gynted â phosib.
- Os bydd mwy na 5 yn ymgeisio i gystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth unigol, cynhelir rhagbrofion.
- Fel arfer, 3 chystadleuydd unigol fydd yn ymddangos ar y llwyfan.
- Gall y beirniaid ddewis rhoi hyd at 5 ar y llwyfan.
- Bydd pob grŵp neu gôr yn cael cystadlu ar y llwyfan.
- Cynhelir y rhagbrofion yn Ysgol Glan Taf ar ddiwrnod yr eisteddfod. Bydd y manylion yn cael eu rhannu mewn da bryd.
- Mae angen i chi ddarparu copi o’ch darnau ar gyfer y beirniaid a’r cyfeilyddion. Byddai’n well gennym dderbyn copïau yn electronig. Ewch i'r Porthol Cystadlu neu anfon copi yn electronig ar dros e-bost at cystadlu@eisteddfodcaerdydd.cymru gan nodi manylion y cystadleuydd a’r gystadleuaeth. Gallwch gysylltu hefyd os ydych yn cael trafferthion anfon copi dros e-bost.
- Ni chaniateir cyflwyno’r un darn mewn mwy nag un gystadleuaeth.
- Bydd cyfeilyddion swyddogol ar gael i ymgeiswyr eu defnyddio.
- Os ydych am ddefnyddio cyfeilydd swyddogol, bydd angen i chi gyflwyno copi o’r darn ymlaen llaw.
- Caniateir i ymgeiswyr ddod â’u cyfeilyddion eu hunain.
- Bydd barn y beirniad yn derfynol ym mhob achos.
- Mae’r beirniad yn cadw’r hawl i rannu neu atal gwobrau.
- Ni chaniateir gwneud gwrthdystiad cyhoeddus yn yr eisteddfod. Dylid anfon unrhyw wrthdystiad neu gŵyn neu wrthdystiad yn ysgrifenedig at ysgrifennydd yr eisteddfod. Bydd barn y pwyllgor yn derfynol.
- Mae’r pwyllgor yn cadw’r hawl i dynnu cystadleuaeth oddi ar y rhaglen.
- Ni fydd y pwyllgor yn gyfrifol am unrhyw ddamwain na cholled all ddigwydd yn ystod, neu o ganlyniad i’r eisteddfod.
- Rhoddir beirniadaeth fer ysgrifenedig i holl gystadleuwyr y llwyfan. Bydd ar gael ar ôl yr eisteddfod.
- Mae’n anghyfreithlon llungopïo unrhyw ddarn o gerddoriaeth.
- Cyfrifoldeb y cystadleuwyr yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarn o gerddoriaeth.
Dysgwyr
- Cynradd: Dysgwyr yw cystadleuwyr nad ydynt wedi/yn dilyn rhaglen astudio Cymraeg yng nghyfnodau allweddol 1 a 2, ond, os ydynt yn hwyrddyfodiaid di-Gymraeg mewn ysgol lle mae mwyafrif y disgyblion yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg caniateir iddynt gystadlu fel dysgwyr am eu tair blynedd gyntaf yn yr ysgol.
- Uwchradd: Dysgwyr yw’r cystadleuwyr hynny nad ydynt wedi/yn dilyn rhaglen astudio Cymraeg yng nghyfnod allweddol 1, 2 na 3. Caniateir hwyrddyfodiaid di-Gymraeg i gystadlu fel dysgwyr.
- Byddem yn gobeithio na fydd aelodau lle mae un rhiant yn y cartref yn gallu’r Gymraeg yn cystadlu fel dysgwyr.
- Caniateir aelodau oed cynradd sy’n symud i’r sector addysg cyfrwng Saesneg ar ôl cyfnod yn y sector cyfrwng Cymraeg i gystadlu fel dysgwr mewn cystadlaethau torfol i ddysgwyr yn unig.