Amodau a Rheolau
Cystadlaethau Gwaith Cartref Eisteddfod Caerdydd 2022
- Rhaid i geisiadau cystadlaethau gwaith cartref gyrraedd erbyn 6pm ddydd Gwener 26 Tachwedd 2021.
- Y beirniaid ar gyfer y cystadlaethau rhyddiaith yw Manon Steffan Ros a Geraint Lewis.
- Y beirniaid ar gyfer y cystadlaethau barddoniaeth yw Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury.
- Y beirniad ar gyfer y cystadlaethau ffotograffiaeth yw Betsan Evans.
- Y beirniad ar gyfer y cystadlaethau cerddoriaeth yw Gareth Olubumni Hughes.
- Byddai’n well gennym dderbyn ceisiadau dros e-bost at cystadlu@eisteddfodcaerdydd.cymru. Ond gallwch hefyd eu hanfon drwy’r post at:
Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd d/o Shân Crofft, 17 Rennie Street, Riverside, Caerdydd, CF11 6EG. - Mae croeso i chi gystadlu cynifer o weithiau ag y dymunwch ym mhob cystadleuaeth. Ond cofiwch fod yn rhaid cyflwyno pob ymgais ar wahân o dan ffugenw gwahanol bob tro.
- Ar gyfer cystadlaethau ysgrifenedig:
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar frig eich ymgais, p’un a eich bod yn anfon y wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post:
- eich ffugenw
- rhif y gystadleuaeth a theitl y gystadleuaeth
- nifer y geiriau neu’r llinellau os yw’n berthnasol
- yn y prif e-bost, neu ar ddarn papur ar wahân os ydych yn anfon eich ymgais drwy’r post, dylech gynnwys:
- eich enw
- manylion pa gystadlaethau yr ydych wedi ymgeisio ynddynt, gan gynnwys y ffugenwau yr ydych wedi eu defnyddio
- manylion cyswllt yr ymgeisydd
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- cyfeiriad cartref (ar gyfer unrhyw wobr)
- yn achos cystadlaethau i blant oed uwchradd, cynradd a thlws yr ifanc, dylid cynnwys oed yr ymgeisydd
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar frig eich ymgais, p’un a eich bod yn anfon y wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post:
- Ar gyfer cystadlaethau ffotograffiaeth:
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar gefn eich ymgais os ydych yn danfon ymgais drwy’r post, neu ar yr e-bost os ydych yn ei anfon yn electronig:
- eich ffugenw
- rhif y gystadleuaeth a theitl y gystadleuaeth
- yn y prif e-bost, neu ar ddarn papur ar wahân os ydych yn anfon eich ymgais drwy’r post, dylech gynnwys:
- eich enw
- manylion pa gystadlaethau yr ydych wedi ymgeisio ynddynt, gan gynnwys y ffugenwau yr ydych wedi eu defnyddio
- manylion cyswllt yr ymgeisydd
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- cyfeiriad cartref (ar gyfer unrhyw wobr)
- yn achos cystadlaethau i blant oed uwchradd a chynradd dylid cynnwys oed yr ymgeisydd
- nodwch mai dim ond un ffotograff y dylid ei gyflwyno ar gyfer pob ymgais, ond mae croeso i chi ymgeisio fwy nag unwaith
- dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol ar gefn eich ymgais os ydych yn danfon ymgais drwy’r post, neu ar yr e-bost os ydych yn ei anfon yn electronig:
- Ni fydd manylion yr ymgeisydd yn cael eu rhannu gyda’r beirniad.
- Mae croeso i athrawon anfon ceisiadau disgyblion i gyd gyda’i gilydd. Os byddwch yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â ni ymlaen llaw. Bydd angen sicrhau bod y manylion cywir a pherthnasol gyda phob ymgais.
- Ni chaniateir cyflwyno’r un darn mewn mwy nag un gystadleuaeth.
- Gellir gwneud cais i gael beirniadaeth drwy e-bostio cystadlu@eisteddfodcaerdydd.cymru ar ôl 28 Ionawr 2022.